Jeremiah 26:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll, yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.'