Jeremiah 26:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr ARGLWYDD, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dywed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud — pob gair!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tu375?'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhu375?'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair.