Jeremiah 26:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a'i holl gedyrn, a'r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i'r Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad a dyma fe'n dianc am ei fywyd i'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y Brenin Jehoiacim a'i holl osgordd a'i dywysogion ei eiriau, a cheisiodd y brenin ei ladd. Pan glywodd Ureia, fe ofnodd a ffoi i'r Aifft.