Jeremiah 27:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD holl-bwerus — gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a palas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn nhu375? brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.'