Jeremiah 27:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y genedl a'r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â'r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi eu dinistrio nhw yn llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno 'r cleddyf a newyn a haint," medd yr ARGLWYDD, "nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.