Jeremiah 28:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, "Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.