Jeremiah 28:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i'r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDDyn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,' medd yr ARGLWYDD, 'canys torraf iau brenin Babilon.'"