Jeremiah 29:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon gan y brenin Nebwchadnesar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon.