Jeremiah 29:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf â chwi, ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i'r lle hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn.