Jeremiah 29:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a'ch casglaf chwi o'r holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y rhai y'ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a'ch dygaf chwi drachefn i'r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe'm cewch,' medd yr ARGLWYDD, 'ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,' medd yr ARGLWYDD; 'ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.'