Jeremiah 29:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a'u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: 'Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Neb-uchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gu373?ydd chwi.