Jeremiah 29:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, gan ddywedyd, Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Anfonaist lythyrau yn d'enw dy hun at holl bobl Jerwsalem, ac at yr offeiriad Seffaneia fab Maaseia ac at yr holl offeiriaid, gan ddweud: