Jeremiah 29:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad, ac â'i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n ymweld Semaia y Nehelamiad, ac 'i hil. Ni adewir yr un o'i eiddo ymhlith y bobl hyn, ac ni wl y daioni yr wyf fi am ei roi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD, oherwydd dysgodd wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'"