Jeremiah 3:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond i ti gyfaddef dy fai — cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog. Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn unig cydnebydd dy gamwedd, iti wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, ac afradu dy ffafrau i ddieithriaid dan bob pren gwyrddlas, heb wrando ar fy llais,' medd yr ARGLWYDD.