Jeremiah 3:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr ARGLWYDD; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion — bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dychwelwch, blant anffyddlon," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd myfi a'ch piau chwi, ac fe'ch cymeraf bob yn un o ddinas a bob yn ddau o lwyth, a'ch dwyn i Seion.