Jeremiah 3:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr ARGLWYDD; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i chwi amlhau a chynyddu yn y wlad, fe ddaw amser," medd yr ARGLWYDD, "pan na ddywedir mwyach, 'Arch cyfamod yr ARGLWYDD', ac ni ddaw i feddwl neb gofio amdani nac ymweld hi, ac ni wneir hynny mwyach.