Jeremiah 3:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn l ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.