Jeremiah 3:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a'n gwarth a'n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW y pechasom, nyni a'n tadau, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd, a'n gwarth fel blanced troson ni. Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw o'r dechrau cyntaf hyd heddiw. Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorweddwn yn ein gwarth, a'n cywilydd wedi ein hamdi. Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw, nyni a'n hynafiaid, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw."