Jeremiah 30:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a'th achubaf di o bell, a'th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a'i dychryno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,' medd yr ARGLWYDD, 'paid ag arswydo, Israel, canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.