Jeremiah 30:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i'th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y'th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a'th geryddaf di mewn barn, ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i gyda chi, i'ch achub chi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,' medd yr ARGLWYDD; 'gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith, ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Ond ceryddaf di yn l dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.'"