Jeremiah 30:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy holl gariadau a'th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a'th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di. Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti! Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn; rwyt wedi diodde cosb greulon, am dy fod wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio; trewais di dyrnod gelyn, chosb greulon, oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.