Jeremiah 30:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a'r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a'r llys a erys yn ôl ei arfer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob, a thosturio wrth eu teuluoedd. Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion, a'r palas yn cael ei ailadeiladu ble roedd o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le.