Jeremiah 30:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a'u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a'u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio i'w glywed yn dod oddi yno. Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau; Bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu, amlhaf hwy, ac ni leihnt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.