Jeremiah 30:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a'u llywiawdwr a ddaw allan o'u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain; bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith. Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod. Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg; paraf iddo nesu, ac fe ddaw ataf; canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?" medd yr ARGLWYDD.