Jeremiah 31:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Atal dy lef rhag wylo, a'th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i'th lafur, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau. Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith. Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau, oherwydd y mae elw i'th lafur," medd yr ARGLWYDD; "dychwelant o wlad y gelyn.