Jeremiah 31:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â'r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy NUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist, ‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi. Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers. Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti. Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno, 'Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu; adfer fi, imi ddychwelyd, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.