Jeremiah 31:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden ni wedi troi cefn arnat ti, ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl. Ar ôl gweld ein bai roedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion! Roedd gynnon ni gywilydd go iawn am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi imi droi, bu edifar gennyf; wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun; cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo, gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.'