Jeremiah 31:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi! Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i. Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw, dw i'n dal yn eu caru nhw. Mae'r teimladau mor gryf yno i, alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi? Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd. Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio thrugarhau wrtho," medd yr ARGLWYDD.