Jeremiah 31:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr ARGLWYDD a'th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw, a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem: ‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw, boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: 'Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.'