Jeremiah 31:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum 'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD.