Jeremiah 31:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond dyma'r cyfamod a wnaf thu375? Israel ar l y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.