Jeremiah 31:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDD: oherwydd hwynt‐hwy oll o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a'm hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni chofiaf mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, 'Adnebydd yr ARGLWYDD'; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy."