Jeremiah 31:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod, neu archwilio sylfeini'r ddaear. Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel am bopeth drwg maen nhw wedi ei wneud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant," medd yr ARGLWYDD.