Jeremiah 31:40 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl ddyffryn y celaneddau, a'r lludw, a'r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua'r dwyrain, a fydd sanctaidd i'r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd hyd yn oed y dyffryn ble cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Nant Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth."