Jeremiah 32:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i'w goresgyn hi; a'r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a'r newyn, a'r haint: a'r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a'i gweli.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.