Jeremiah 32:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd Sedeceia brenin Jwda wedi ei garcharu, a dweud, "Pam yr wyt yn proffwydo, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd;