Jeremiah 32:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i'w meibion a'u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.'