Jeremiah 32:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, myfi a'u cynullaf hwynt o'r holl diroedd, y rhai yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a'u dygaf yn eu hôl i'r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel.