Jeremiah 32:43 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, "Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid."