Jeremiah 32:44 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a'u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,' medd yr ARGLWYDD."