Jeremiah 32:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i'w brynu ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, "Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu."'