Jeremiah 33:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag — fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail: