Jeremiah 33:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch ARGLWYDD y lluoedd; oherwydd daionus yw yr ARGLWYDD, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr ARGLWYDD: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD: “Diolchwch i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Clywir eto ynddynt su373?n gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud, "Molwch ARGLWYDD y Lluoedd, oherwydd da yw'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth." A dygant offrwm diolch i du375?'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,' medd yr ARGLWYDD.