Jeremiah 33:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir — bydd y lle yma yn adfeilion, heb bobl nag anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd.