Jeremiah 33:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,' medd yr ARGLWYDD.