Jeremiah 33:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub, a bydd Jerwsalem yn saff. Bydd e'n cael ei alw, “Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.” ’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: 'Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.'