Jeremiah 33:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a'u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud — ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, 'Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd'? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gu373?ydd.