Jeremiah 33:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o'i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi ei golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.'"