Jeremiah 34:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a'r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi eu concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.