Jeremiah 34:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu yr holl benaethiaid, a'r holl bobl y rhai a aethent i'r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a'u gollyngasant ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd — y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi ei addo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar l cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.